Tamaid yn hwyr, ‘dw i’n cyfaddef, ond des i o hyd i’r clip yma ar y we o’r brenin Abdalah o Sawdi yn cwrdd a’r Frenhines ym Mhalas Buckingham wythnos diwethaf.
Ydy’r fyddin wedi datblygu hiwmor newydd? Nei ife’r tywysog Philip drefnodd y gerddoriaeth..?
11 10, 2007 at 6:47 yh
Roedd rholio’r carped coch mas i’r brenin Abdalah yn warth arnom. Pwy soniodd rywdro am ddatblygu ‘polisi tramor moesol?’ Prydain yn ymosod ar Irac gyda’r Seppos i gael gwared ag unben creulon, ac yn gwahodd undeb creulon arall i loddesta ar draul trethdalwyr gwledydd Prydain, ie, chi a fi! Ond codwch eich calon, os cawn ni werthu cant arall o awyrennau i’r Sawdis am bris pryd da o fwyd, nag yw hwnna’n werth pris y pwdin?