Wedi i’r arlywydd Pervez Musharaff gyhoeddi stad o argyfwng yn Mhacistan, gan arestion dwsinnu o wrthwynebwyr i’w lywodraeth fel rhan o’i fesurau diogelwch newydd, bydd tipyn o boeni ynglyn a’r dyfodol yn digwydd ledled y byd. Un o’r prifddinasoedd fydd a’r mwyaf o bryder dros ddyfodol Pacistan fydd Tehran. Yn rhannu ei finiau ac Irac ac Affganistan, y peth olaf fydd Iran eisiau ei weld yw anrhefn pellach ar ei ffin dde-orllewinol gyda’r wlad mae Musharaff yn ceisio’i rheoli ar hyn o bryd.
Ond nid arhefn cyffredin yw’r bwgan ar y gorwel ym Mhacistan, ond arhefn mewn gwlad sy’n cynnwys cymysgedd tanllyd o daflegrau niwcliar a miloedd o gefnogwyr i neges grefyddo-wlediyddol Osama bin Laden a’r Taliban. Yn Tehran, mae hyn yn gymain os nad yn fwy o fygythiad nac unrhyw ymosodad gan yr Unol Daleithoau neu Israel. Mae si ar led ar strydoedd Tehran ac ar y we taw is-stori yw’r ffrwgwd ddiplomyddol gyda’r Unol Daleithiau ac mae gwir nod Iran yw datblygu rhyw amddiffyniad i wrhtwynebu llywodraeth eithafol Swni yn cydio’r awennau yn Islamabad.
Yn gynt eleni, profodd Pacistan daflegrau newydd sydd a’r gallu i gludo arfau nicliar gymaint a 2,000km o ffinniau’r wlad. Mae hyn yn rhy fyr o bellter i daro Tehran ei hunan, ond gorwedd rhannau helaeth o dde a gorllewin Iran o fewn y pellter yma. Gwaeth fyth i’r Gorllewin ac i economi’r byd yw’r ffaith bod mynediad morol Gyneifor Persia o fewn y pellter yma. Trwy’r stribyn cul yma o for llif ganran sylweddol o gyflenwad olew y byd, a gall ymosodiad niwcliar yn yr ardal beryglu’r cyflenwad gan yrru prisoedd olew yn uwch fyth.
Falle taw’r peth rhyfeddaf yw’r ffaith nad oes llawer o son am fygythiadau i ddiogelwch Iran yn bodoli yn y wasg Orllewinol ar hyn o bryd. Mae digon o son am fygythiad Iran i ddiogelwch Israel a’r Dwyrain Canol yn gyffredinol. Ond ychdig iawn sy’n holi pam fyddai Tehran eisau bom yn y lle cyntaf. Tybiaf taw un rheswm am hyn yw’r anesmwythder all holi fel hyn ei achosi dros gwestiwn bodolaeth cannoed arfau niwcliar Israel ei hunan, a datganiadau cyson Israel a’r Unol Daleithiau ynglyn a’u parodrwydd i fomio Iran (cymerwch gip er enghraifft ar y pwt yma o ddadansoddiad gan y BBC: http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/middle_east/6122412.stm). Ond drwy beidio o holi’r cwestiwn, methu byddwn ni i ddeall y pryderi difirfol yn Tehran dros ddiogelwch ei gwlad rhag ymosodaid niwcliar o’r dwyrain.
Cofnodwyd gan himilco