Helo bawb, a chroeso i’r rhifyn cyntaf o mlog newydd i ar y Dwyrain Canol ac ar wleidyddiaeth rhyngwladol yn fwy cyffredinol. Nod y blog yw ceisio darparu sylwebaeth Gymraeg ar faterion gwleidyddol y Dwyrain Canol, ac i hysbysbu darllenwyr i rhai o’r datblygiadau nad sy’n weledol yn y wasg Brydeinig. ‘Dw i’n croesawi sylwadau ac yn bwriadu ymateg i gymaint o sylwadau posib. Rhaid i mi gyfadde taw dyma’r tro cyntaf i mi ‘sgwennu peth o’r fath yma, felly dysgu ar y job fydda i’n ei wneud. Gyda lwc bydd fformat y blog yn newid dros yr amser ac yn datblgu’n fwy effeithiol, gan ddarparu cyfres o ddoleni. Hefyd, ‘dw i’n ddefnyddiwr o Windows Vista ac Office 2007 ac felly’n aros yn eiddgar am y pecyn iaith newydd ar gyfer y rhaglennu yma fydd ar gael o Microsoft erbyn mis Rhagfyr 2007. Bydd y sillafu’n swr o wella gyda chymorth y feddalwedd yma!
Salam,
himlico
11 5, 2007 at 11:32 yb
Croeso i’r Rhithfro! Edrych mlaen i ddarllen dy byst.
R
11 6, 2007 at 7:37 yb
Diolch. Yn ceisio dod i arfer a’r dechnoleg ar hyn o bryd, yn enwedig a meddalwedd sy’n cynnig gwasanaeth Cymraeg.
H